|
|
Article: A gafodd y diafol ei gornel wedi'r cwbl? Gan barhau a'n cyfres ar eglwysi diddorol, bu Tudur Huws Jones i berfeddion Mon i weld eglwys a charreg fedd hynod.(Features)
- Article from:
- Daily Post (Liverpool, England)
- Article date:
- March 28, 2007
CopyrightCOPYRIGHT 2007 MGN Ltd. This material is published under license from the publisher through the Gale Group, Farmington Hills, Michigan. All inquiries regarding rights should be directed to the Gale Group. (Hide copyright information)
|
ROEDD hi'n ddiwrnod cynta'r gwanwyn, ac roedd y byd fel pe bai'n ymwybodol o hynny ac wedi penderfynu rhoi sioe go iawn ymlaen. Roedd yr haul yn tywynnu ar ol oerwynt y dyddiau cynt, ac os nad yw'n ormod o ystrydeb, roedd byd natur ar ei orau.
Dacw fwncath diog ar bostyn ffens reit wrth ochr y lon. Meddyliais stopio a nol y camera o'r set gefn, ond fasa waeth i mi danio gwn yn ei ymyl ddim.
Cwningen wedyn yn sleifio i'r ochr wrth glywed y car, ac wrth basio afon fechan gwelwn greyr glas yn glanio i chwilio am ei frecwast.
Ar y ffordd i Eglwys Llanbabo yr oeddwn, ac yn cymryd y cyfle i ddilyn fy nhrwyn ar hyd y rhwydwaith eang o lonydd bach sy'n ...