|
|
Article: Byddigions yn y gwyll; BYD NATUR.
- Article from:
- Daily Post (Liverpool, England)
- Article date:
- September 9, 2009
CopyrightCOPYRIGHT 2009 MGN Ltd. This material is published under license from the publisher through the Gale Group, Farmington Hills, Michigan. All inquiries regarding rights should be directed to the Gale Group. (Hide copyright information)
|
Byline: Gan BETHAN WYN JONES
NOSON braf o Fedi oedd hi a'r haul yn machlud yn gain gan daflu gwawr goch ar y coed wrth i mi droi i lawr y dreif tuag at Blas Glyn Llifon. Wrth i mi fynd heibio'r lawntiau, roedd dwy gwningen fechan yn eistedd yn dwt a di-ofn yno. Ond nid i weld cwningod roeddwn i wedi dod i Glyn Llifon, ond i weld un o greaduriaid y nos - yr ystlum.
Y coed o amgylch Plas Glyn Llifon ydi un o'r mannau gorau i weld ystlumod, ac yn benodol yr ystlum pedol lleiaf (Rhinolophus hipposideros; lesser horseshoe bat). Maen nhw wedi cael hafan yn yr hen selerydd glo sydd dan y Plasty. Yno, mae ganddyn nhw glwydydd magu a chlwydydd gaeafgysgu, ac mae ...